RHAN 1AMCAN AMGYLCHEDDOL AC EGWYDDORION AMGYLCHEDDOL
2Egwyddorion amgylcheddol
Yn y Rhan hon, yr “egwyddorion amgylcheddol” yw—
(a)
yr egwyddor ragofalus i’r graddau y mae’n ymwneud â’r amgylchedd;
(b)
yr egwyddor y dylid cymryd camau ataliol i osgoi difrod amgylcheddol;
(c)
yr egwyddor y dylid cywiro difrod amgylcheddol fel mater o flaenoriaeth yn y tarddle;
(d)
yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu.