Rhagolygol

RHAN 2LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

19Hysbysiadau cydymffurfio brysLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo SLlAC yn ystyried bod angen i bob cam gweithredu a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio sydd i’w gyflwyno o dan adran 18(1)(a) gael ei gymryd ar frys er mwyn atal neu liniaru risg bod niwed difrifol ar fin digwydd i’r amgylchedd neu i iechyd pobl.

(2)Caiff yr hysbysiad, mewn perthynas â phob cam gweithredu a bennir ynddo, bennu cyfnod o lai na 30 o ddiwrnodau, ond o 7 niwrnod o leiaf, sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, fel y cyfnod y mae rhaid cymryd y cam gweithredu o’i fewn (yn hytrach na chyfnod o 30 o ddiwrnodau o leiaf yn unol ag adran 18(3)).

(3)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio sy’n pennu cyfnod o lai na 30 o ddiwrnodau ar gyfer pob cam gweithredu yn unol ag is-adran (2) nodi ei fod yn hysbysiad cydymffurfio brys.

(4)Cyfeirir at hysbysiad o’r fath yn y Rhan hon fel hysbysiad cydymffurfio brys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)