Rhagolygol
(1)Caiff SLlAC gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i awdurdod cyhoeddus os yw’n ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus—
(a)yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, neu
(b)wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth.
(2)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir o dan is-adran (1)(a) bennu—
(a)y gyfraith amgylcheddol y mae’r methiant honedig yn ymwneud â hi,
(b)yr ymddygiad sydd wedi peri i SLlAC ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,
(c)un neu ragor o gamau gweithredu y mae SLlAC yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod eu cymryd er mwyn ymdrin â’r methiant (a gaiff gynnwys camau gweithredu y bwriedir iddynt unioni neu liniaru’r methiant neu ei atal rhag digwydd eto), a
(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd pob cam gweithredu.
(3)Rhaid i’r cyfnod a bennir ar gyfer pob cam gweithredu at ddibenion is-adran (2)(d) fod o leiaf 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad (ond gweler hefyd adran 19(2) (hyd y cyfnod penodedig mewn hysbysiadau cydymffurfio brys)).
(4)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir o dan is-adran (1)(b) bennu—
(a)pam y mae SLlAC yn ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth,
(b)y cam gweithredu y mae SLlAC yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ei gymryd er mwyn ymdrin â’r methiant, ac
(c)o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y cam gweithredu.
(5)Rhaid i hysbysiad cydymffurfio hefyd gynnwys—
(a)gwybodaeth am yr hawl i wneud cais am adolygiad o hysbysiad cydymffurfio, gan gynnwys y cyfnod y mae rhaid gwneud y cais o’i fewn, a
(b)eglurhad o ganlyniadau methu â chymryd y cam neu’r camau gweithredu a bennir yn yr hysbysiad.
(6)Caiff SLlAC, drwy roi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo—
(a)tynnu’r hysbysiad cydymffurfio yn ôl;
(b)amrywio’r hysbysiad cydymffurfio.
(7)Ni chaiff hysbysiad cydymffurfio o dan is-adran (1)(a) ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam gweithredu mewn cysylltiad â phenderfyniad gweinyddol a wnaed gan awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â pherson penodol neu achos penodol (er enghraifft, penderfyniad ar gais am ganiatâd cynllunio, cyllid neu drwydded, neu benderfyniad ar orfodi rheoleiddiol mewn achos penodol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)