RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Hysbysiadau cydymffurfio

18Hysbysiadau cydymffurfio

(1)

Caiff SLlAC gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i awdurdod cyhoeddus os yw’n ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus—

(a)

yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, neu

(b)

wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth.

(2)

Rhaid i hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir o dan is-adran (1)(a) bennu—

(a)

y gyfraith amgylcheddol y mae’r methiant honedig yn ymwneud â hi,

(b)

yr ymddygiad sydd wedi peri i SLlAC ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus yn methu â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,

(c)

un neu ragor o gamau gweithredu y mae SLlAC yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod eu cymryd er mwyn ymdrin â’r methiant (a gaiff gynnwys camau gweithredu y bwriedir iddynt unioni neu liniaru’r methiant neu ei atal rhag digwydd eto), a

(d)

o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd pob cam gweithredu.

(3)

Rhaid i’r cyfnod a bennir ar gyfer pob cam gweithredu at ddibenion is-adran (2)(d) fod o leiaf 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad (ond gweler hefyd adran 19(2) (hyd y cyfnod penodedig mewn hysbysiadau cydymffurfio brys)).

(4)

Rhaid i hysbysiad cydymffurfio a gyflwynir o dan is-adran (1)(b) bennu—

(a)

pam y mae SLlAC yn ystyried bod yr awdurdod cyhoeddus wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth,

(b)

y cam gweithredu y mae SLlAC yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ei gymryd er mwyn ymdrin â’r methiant, ac

(c)

o fewn pa gyfnod y mae rhaid cymryd y cam gweithredu.

(5)

Rhaid i hysbysiad cydymffurfio hefyd gynnwys—

(a)

gwybodaeth am yr hawl i wneud cais am adolygiad o hysbysiad cydymffurfio, gan gynnwys y cyfnod y mae rhaid gwneud y cais o’i fewn, a

(b)

eglurhad o ganlyniadau methu â chymryd y cam neu’r camau gweithredu a bennir yn yr hysbysiad.

(6)

Caiff SLlAC, drwy roi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo—

(a)

tynnu’r hysbysiad cydymffurfio yn ôl;

(b)

amrywio’r hysbysiad cydymffurfio.

(7)

Ni chaiff hysbysiad cydymffurfio o dan is-adran (1)(a) ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam gweithredu mewn cysylltiad â phenderfyniad gweinyddol a wnaed gan awdurdod cyhoeddus mewn perthynas â pherson penodol neu achos penodol (er enghraifft, penderfyniad ar gais am ganiatâd cynllunio, cyllid neu drwydded, neu benderfyniad ar orfodi rheoleiddiol mewn achos penodol).