Rhagolygol

RHAN 2LL+CSWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

YmchwiliadauLL+C

17YmchwiliadauLL+C

(1)Caiff SLlAC ymchwilio i unrhyw fater sy’n ymwneud ag—

(a)a yw awdurdod cyhoeddus yn methu, neu wedi methu ar unrhyw adeg (pa un ai cyn neu ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol), â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,

(b)sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu a’i chymhwyso, neu

(c)effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol.

(2)Caniateir cynnal ymchwiliadau o dan is-adran (1) ar gymhelliad SLlAC ei hun neu mewn ymateb i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddi gan unrhyw berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)