RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Ymchwiliadau
17Ymchwiliadau
(1)
Caiff SLlAC ymchwilio i unrhyw fater sy’n ymwneud ag—
(a)
a yw awdurdod cyhoeddus yn methu, neu wedi methu ar unrhyw adeg (pa un ai cyn neu ar ôl i’r Ddeddf hon gael y Cydsyniad Brenhinol), â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol,
(b)
sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu a’i chymhwyso, neu
(c)
effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol.
(2)
Caniateir cynnal ymchwiliadau o dan is-adran (1) ar gymhelliad SLlAC ei hun neu mewn ymateb i unrhyw sylwadau a gyflwynir iddi gan unrhyw berson.