Rhagolygol
(1)Caiff person gyflwyno sylwadau i SLlAC ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag—
(a)cydymffurfedd awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol,
(b)sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu a’i chymhwyso, ac
(c)effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol.
(2)Rhaid i SLlAC lunio a chyhoeddi dogfen sy’n nodi’r weithdrefn y caniateir cyflwyno’r sylwadau i SLlAC drwyddi.
(3)Rhaid i’r ddogfen hefyd nodi polisi SLlAC ynghylch hysbysu personau am ei hymateb i’w sylwadau ac unrhyw gamau gweithredu y mae’n eu cymryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)