RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Sylwadau

16Sylwadau

(1)

Caiff person gyflwyno sylwadau i SLlAC ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag—

(a)

cydymffurfedd awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol,

(b)

sut y mae cyfraith amgylcheddol yn cael ei gweithredu a’i chymhwyso, ac

(c)

effeithiolrwydd cyfraith amgylcheddol.

(2)

Rhaid i SLlAC lunio a chyhoeddi dogfen sy’n nodi’r weithdrefn y caniateir cyflwyno’r sylwadau i SLlAC drwyddi.

(3)

Rhaid i’r ddogfen hefyd nodi polisi SLlAC ynghylch hysbysu personau am ei hymateb i’w sylwadau ac unrhyw gamau gweithredu y mae’n eu cymryd.