RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Hysbysiadau gwybodaeth
15Hysbysiadau gwybodaeth
(1)
Caiff SLlAC gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i awdurdod cyhoeddus.
(2)
Hysbysiad yw hysbysiad gwybodaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus roi gwybodaeth i SLlAC sy’n rhesymol ofynnol ganddi at ddibenion arfer ei swyddogaethau.
(3)
Rhaid i hysbysiad gwybodaeth bennu—
(a)
yr wybodaeth, neu natur yr wybodaeth, sydd i’w rhoi,
(b)
at ba ddibenion y mae’r wybodaeth yn ofynnol,
(c)
sut y mae’r wybodaeth i’w rhoi, a
(d)
o fewn pa gyfnod y mae’r wybodaeth i’w rhoi.
(4)
Rhaid i’r cyfnod a bennir at ddibenion is-adran (3)(d) fod o leiaf 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.
(5)
Caiff SLlAC, drwy roi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus y cyflwynwyd hysbysiad gwybodaeth iddo—
(a)
tynnu’r hysbysiad gwybodaeth yn ôl;
(b)
amrywio’r hysbysiad gwybodaeth (gan gynnwys drwy estyn y cyfnod y mae’n ofynnol rhoi’r wybodaeth o’i fewn).
(6)
Mae is-adran (7) yn gymwys pan fo awdurdod cyhoeddus yn cyflwyno sylw i SLlAC ynghylch hysbysiad gwybodaeth cyn diwedd y cyfnod y mae’n ofynnol rhoi’r wybodaeth o’i fewn.
(7)
Wrth gyfrifo’r dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus roi’r wybodaeth i SLlAC, nid yw’r amser y mae SLlAC yn ei gymryd i ystyried y sylw yn cyfrif fel rhan o’r cyfnod y mae’n ofynnol rhoi’r wybodaeth o’i fewn.
(8)
At ddibenion is-adran (7), mae’r amser y mae SLlAC yn ei gymryd i ystyried y sylw yn dechrau â’r diwrnod y cyflwynir y sylw ac yn gorffen â’r diwrnod—
(a)
y mae SLlAC yn rhoi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus o dan is-adran (5) fod yr hysbysiad gwybodaeth yn cael ei dynnu’n ôl neu ei amrywio mewn ymateb i’r sylw, neu
(b)
y mae SLlAC yn rhoi hysbysiad i’r awdurdod cyhoeddus nad yw’n tynnu’n ôl neu’n amrywio’r hysbysiad gwybodaeth mewn ymateb i’r sylw.