Rhagolygol
(1)Caiff SLlAC—
(a)dyroddi canllawiau (pa un a ydynt yn gyffredinol neu’n benodol), neu
(b)rhoi cyngor neu gymorth arall i unrhyw berson,
ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfraith amgylcheddol.
(2)Pan fo cyngor SLlAC i awdurdod cyhoeddus o dan yr adran hon yn cynnwys argymhellion sy’n ymwneud â chymhwyso neu weithredu cyfraith amgylcheddol gan yr awdurdod, caiff SLlAC ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ymateb i’r argymhellion o fewn cyfnod a bennir gan SLlAC.
(3)Rhaid i SLlAC gyhoeddi unrhyw ganllawiau y mae’n eu dyroddi o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)