RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Swyddogaethau monitro, adrodd a chynghori
14Cyngor, canllawiau a chymorth ar gyfraith amgylcheddol
(1)
Caiff SLlAC—
(a)
dyroddi canllawiau (pa un a ydynt yn gyffredinol neu’n benodol), neu
(b)
rhoi cyngor neu gymorth arall i unrhyw berson,
ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfraith amgylcheddol.
(2)
Pan fo cyngor SLlAC i awdurdod cyhoeddus o dan yr adran hon yn cynnwys argymhellion sy’n ymwneud â chymhwyso neu weithredu cyfraith amgylcheddol gan yr awdurdod, caiff SLlAC ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ymateb i’r argymhellion o fewn cyfnod a bennir gan SLlAC.
(3)
Rhaid i SLlAC gyhoeddi unrhyw ganllawiau y mae’n eu dyroddi o dan yr adran hon.