RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Swyddogaethau monitro, adrodd a chynghori
13Cynghori Gweinidogion Cymru
(1)
Caiff SLlAC roi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch—
(a)
cynnig i wneud cyfraith amgylcheddol newydd neu ddeddfiad newydd arall sy’n ymwneud â’r amgylchedd yng Nghymru,
(b)
newid arfaethedig i gyfraith amgylcheddol neu ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r amgylchedd yng Nghymru, neu
(c)
unrhyw fater arall sy’n ymwneud â chyfraith amgylcheddol.
(2)
Caniateir rhoi cyngor o dan yr adran hon ar gymhelliad SLlAC ei hun neu ar gais gan Weinidogion Cymru.
(3)
Pan—
(a)
bo Gweinidogion Cymru yn gwneud cais am gyngor SLlAC o dan is-adran (1), ond
(b)
bo SLlAC yn penderfynu peidio â rhoi’r cyngor y gwneir cais amdano,
rhaid i SLlAC roi datganiad o’i rhesymau dros benderfynu hynny i Weinidogion Cymru.
(4)
Rhaid i SLlAC gyhoeddi unrhyw gyngor y mae’n ei roi i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i gyngor a roddir gan SLlAC o dan yr adran hon.
(6)
Yn is-adran (1), mae “Cymru” yn cynnwys, i’r graddau y mae’r cynnig neu’r newid arfaethedig yn ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfyn atfor y môr tiriogaethol.