Rhagolygol
(1)Rhaid i SLlAC fonitro—
(a)cydymffurfedd awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol, a
(b)gweithredu a chymhwyso cyfraith amgylcheddol.
(2)Caiff SLlAC adrodd ar—
(a)unrhyw fater y mae’n ofynnol iddi ei fonitro o dan is-adran (1), neu
(b)unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwneud cyfraith amgylcheddol neu ei heffeithiolrwydd.
(3)Rhaid i SLlAC—
(a)cyhoeddi ei hadroddiadau o dan is-adran (2), a
(b)gosod copïau o’r adroddiadau gerbron Senedd Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 mewn grym ar 27.4.2028 (yn amodol na fydd diwrnod cynharach yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru), gweler a. 46(4)(5)(6)(c)