RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU

Swyddogaethau monitro, adrodd a chynghori

12Monitro ac adrodd

(1)

Rhaid i SLlAC fonitro—

(a)

cydymffurfedd awdurdodau cyhoeddus â chyfraith amgylcheddol, a

(b)

gweithredu a chymhwyso cyfraith amgylcheddol.

(2)

Caiff SLlAC adrodd ar—

(a)

unrhyw fater y mae’n ofynnol iddi ei fonitro o dan is-adran (1), neu

(b)

unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwneud cyfraith amgylcheddol neu ei heffeithiolrwydd.

(3)

Rhaid i SLlAC—

(a)

cyhoeddi ei hadroddiadau o dan is-adran (2), a

(b)

gosod copïau o’r adroddiadau gerbron Senedd Cymru.