RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru
11Dyletswydd i lunio a chyhoeddi strategaeth
(1)
Rhaid i SLlAC lunio a chyhoeddi strategaeth.
(2)
Rhaid i’r strategaeth nodi sut y mae SLlAC yn bwriadu arfer ei swyddogaethau.
(3)
Rhaid i SLlAC arfer ei swyddogaethau yn unol â’r strategaeth.
(4)
Mae Atodlen 2 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch—
(a)
beth yn benodol y mae rhaid i’r strategaeth ei gynnwys, a
(b)
gofynion gweithdrefnol.