RHAN 2SWYDDFA LLYWODRAETHIANT AMGYLCHEDDOL CYMRU
Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru
10Diben cyffredinol etc.
Rhaid i SLlAC arfer ei swyddogaethau—
(a)
at y diben cyffredinol o—
(i)
cyfrannu at gyrraedd lefel uchel o ran diogelu’r amgylchedd a gwelliant i’r amgylchedd, a
(ii)
sicrhau bod cyfraith amgylcheddol yn effeithiol ac y cydymffurfir â hi, y’i gweithredir ac y’i cymhwysir;
(b)
yn ddiduedd, yn wrthrychol, yn gymesur ac yn dryloyw.