- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026, Adran 8.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rhagolygol
(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “(3)” rhodder “(2A)”;
(b)yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd os oes gan yr awdurdod reswm i gredu bod y ceisydd yn ddigartref a’i fod yn gymwys i gael cymorth ond nad yw’r awdurdod yn fodlon hyd yma o ran y materion hynny.”;
(c)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd—
(a)pan fo’r awdurdod yn fodlon nad oes gan y ceisydd ddim cysylltiad lleol ag ardal unrhyw awdurdod tai lleol yng Nghymru, a
(b)naill ai—
(i)pan fo is-adran (2) yn gymwys i’r ceisydd, neu
(ii)pan fo’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd yn ddigartref a’i fod yn gymwys i gael cymorth.”;
(d)hepgorer is-adran (3);
(e)yn y pennawd, hepgorer “ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol”.
(3)Yn adran 69 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “(2), (3) (yn ddarostyngedig i is-adran (4) a (5)), (7), (8)” rhodder “(1A), (1B), (7)”;
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu bod, neu nad oes, dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75,
(b)os yw’r awdurdod wedi penderfynu nad oes dyletswydd o dan adran 75, nad yw wedi gwneud hynny dim ond ar y sail bod adran 75(4) yn gymwys, ac
(c)bod y ceisydd wedi cael ei hysbysu am benderfyniad yr awdurdod.
(1B)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75,
(b)bod yr awdurdod wedi gwneud hynny dim ond ar y sail bod adran 75(4) yn gymwys,
(c)bod y ceisydd wedi cael ei hysbysu am benderfyniad yr awdurdod, a
(d)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety y mae wedi ei sicrhau o dan adran 68 wedi bod ar gael i’r ceisydd am gyfnod digonol er mwyn caniatáu cyfle rhesymol i’r ceisydd i sicrhau llety i’r ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd ei feddiannu.
(1C)Mae’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1B) yn gyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd nad yw adran 75 yn gymwys.”;
(c)hepgorer is-adrannau (2) i (6) ac (8);
(d)yn is-adran (10), ar ôl “â’r adran hon” mewnosoder “neu ag adran 79”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: