RHAN 1DIGARTREFEDD
Diwygio dyletswyddau i sicrhau llety
7Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr yn dod i ben
(1)
Mae adran 76 o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn is-adran (1), yn lle “neu (7)” rhodder “, (7), (7A) neu (7D)”.
(3)
“(7A)
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai oherwydd camau y mae wedi eu cymryd ai peidio)—
(a)
nad yw’r ceisydd bellach yn ddigartref,
(b)
bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu heblaw yn rhinwedd cynnig a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3),
(c)
bod y llety yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 12 mis o leiaf, a
(d)
bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu yn ysgrifenedig am ganlyniadau posibl cytuno i’r ddyletswydd yn adran 75 ddod i ben, yn cytuno i’r ddyletswydd yn adran 75 ddod i ben.
(7B)
Mae’r cyfnod o 12 mis a grybwyllir yn is-adran (7A) yn dechrau ar y diwrnod y mae hysbysiad yn unol ag adran 84 nad yw’r awdurdod bellach yn ystyried ei fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 75 yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.
(7C)
Ond pan fo ceisydd yn garcharor neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, mae’r cyfnod o 12 mis a grybwyllir yn is-adran (7A) yn dechrau ar y diwrnod y mae’r ceisydd i’w ryddhau o gael ei gadw’n gaeth neu nad yw’n ofynnol bellach iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd (yn ôl y digwydd).
(7D)
Yr amgylchiadau yw—
(a)
bod y ceisydd yn garcharor sy’n bwrw dedfryd o garchar, a
(b)
bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon nad yw’n rhesymol debygol y bydd y ceisydd yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r canlynol—
(i)
y diwrnod y gwneir y cais am gymorth o dan y Bennod hon, neu
(ii)
os oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cais gael ei wneud, y diwrnod y daw’r ddyletswydd o dan adran 66 i ben.
(7E)
Daw’r ddyletswydd i ben yn unol â’r adran hon neu ag adran 79 hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad sydd wedi arwain at ddod â’r ddyletswydd i ben (gweler adran 85).
(7F)
Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch adolygiad.”