Rhagolygol

RHAN 1LL+CDIGARTREFEDD

AdolygiadauLL+C

5Hawl i ofyn am adolygiadLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)Pan fo awdurdod tai lleol yn cynnig llety wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am yr hawl i ofyn am adolygiad o addasrwydd y llety pa un a dderbynnir y cynnig ai peidio.

(3)Yn lle adran 85 (hawl i ofyn am adolygiad) rhodder—

85Hawl i ofyn am adolygiad

(1)Mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o’r materion yn is-adran (2), yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (7).

(2)Y materion y caniateir eu hadolygu yw—

(a)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch cymhwystra’r ceisydd ar gyfer cymorth;

(b)penderfyniad awdurdod tai lleol i beidio â chynnal asesiad o achos person o dan adran 62;

(c)asesiad gan awdurdod tai lleol o anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd;

(d)asesiad gan awdurdod tai lleol o’r gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd—

(i)i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;

(ii)i oresgyn unrhyw rwystr rhag byw’n annibynnol;

(e)cynllun atal, cefnogaeth a llety;

(f)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68 neu 75 (dyletswyddau i geiswyr sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd);

(g)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 76A(2) (dyletswydd i ddarparu cymorth i gadw llety addas);

(h)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68 neu 75 wedi dod i ben;

(i)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 76A(2) wedi dod i ben;

(j)penderfyniad awdurdod tai lleol o dan adran 80 i hysbysu awdurdod tai lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r ceisydd;

(k)penderfyniad o dan adran 80(5) fod yr amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni;

(l)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch addasrwydd llety a gynigir i’r ceisydd wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw ddyletswydd o’r fath (pa un a yw’r ceisydd wedi derbyn y cynnig ai peidio).

(3)Os yw ceisydd yn cyflwyno cais i awdurdod tai lleol am adolygiad, rhaid i’r awdurdod (yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (7)) adolygu unrhyw fater yn is-adran (2) y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn berthnasol, pa un a yw’r ceisydd yn pennu’r mater sydd i’w adolygu ai peidio.

(4)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu penderfyniad a wnaed mewn adolygiad cynharach.

(5)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu cynllun atal, cefnogaeth a llety oni bai y cyflwynir y cais am adolygiad ar unrhyw adeg pan fo’n ofynnol i’r awdurdod gynnal y cynllun.

(6)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu addasrwydd llety a gynigir i’r ceisydd wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw ddyletswydd o’r fath, oni bai y cyflwynir cais am adolygiad ar unrhyw adeg—

(a)cyn i’r cynnig gael ei dderbyn gan y ceisydd a thra bo’r cynnig yn parhau ar agor, a

(b)os yw’r ceisydd wedi derbyn y cynnig—

(i)ar unrhyw adeg pan fydd dyletswydd o dan adran 66, 68 neu 75 yn gymwys i’r ceisydd, neu

(ii)cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae’r llety ar gael i’w feddiannu gan y ceisydd.

(7)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu unrhyw fater arall oni bai y cyflwynir y cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau (neu’r cyfryw gyfnod hirach ag y caiff yr awdurdod ei ganiatáu yn ysgrifenedig) gan ddechrau â’r diwrnod yr hysbysir y ceisydd am asesiad neu benderfyniad yr awdurdod.

(4)Yn adran 86 (gweithdrefn ar gyfer adolygiad)—

(a)yn is-adran (2), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson ar y lefel briodol nad oedd yn ymwneud â’r asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun sy’n destun adolygiad,;

(b)yn is-adran (4)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “penderfyniad” rhodder “asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun”;

(ii)hepgorer neu

(b)yn cadarnhau y cafodd camau rhesymol eu cymryd.

(5)Yn adran 88 (hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “neu, yn ôl y digwydd, y penderfyniad gwreiddiol neu gwestiwn ynghylch a gymerwyd pob cam rhesymol” rhodder “mewn adolygiad neu, yn ôl y digwydd, yr asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun gwreiddiol”;

(b)yn is-adran (4), ar ôl “penderfyniad” mewnosoder “mewn adolygiad neu’r asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun gwreiddiol”;

(c)yn is-adran (5)(a), hepgorer “yn erbyn penderfyniad yr awdurdod”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)