RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
44Adroddiadau cynnydd ar ddwyn y Ddeddf i rym
(1)
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os nad yw’r Ddeddf hon mewn grym yn llawn ar unrhyw un neu ragor o’r diwrnodau a ganlyn—
(a)
31 Rhagfyr 2028;
(b)
31 Rhagfyr 2029;
(c)
31 Rhagfyr bob yn ail flwyddyn ar ôl 2029.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad—
(a)
yn pennu unrhyw gynnydd o ran dwyn y Ddeddf i rym, a
(b)
yn pennu unrhyw gamau pellach i’w cymryd gan Weinidogion Cymru (neu unrhyw berson arall) i ddwyn y Ddeddf i rym yn llawn.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad sy’n ofynnol gan is-adran (2) a gosod copi ohono gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y diwrnod a grybwyllir yn is-adran (1) y mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef.