RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

43Dod i rym

(1)

Daw darpariaethau’r Rhan hon (ac eithrio adran 41) i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)

Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.

(3)

Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)

pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;

(b)

gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.

(4)

Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (2) bennu diwrnod ar gyfer dod ag adran 35 i rym sy’n gynharach na’r diwrnod a bennir ar gyfer dod ag adran 10 i rym.