RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
42Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth o’r fath;
(b)
gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a)
diwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon);
(b)
gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.
(3)
Rhaid i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)
Os yw rheoliadau o dan is-adran (1) yn diwygio, yn diddymu neu fel arall yn addasu darpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru, maent yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
(5)
Mae rheoliadau o dan is-adran (1) nad yw is-adran (4) yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.