Rhagolygol

RHAN 1LL+CDIGARTREFEDD

Asesu anghenion a chynlluniau ar gyfer sicrhau llety a chefnogaethLL+C

4Cynlluniau atal, cefnogaeth a lletyLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad) mewnosoder—

63ACynlluniau atal, cefnogaeth a llety

(1)Os yw awdurdod tai lleol yn ystyried bod dyletswydd arno i geisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon, rhaid i’r awdurdod baratoi a chynnal cynllun atal, cefnogaeth a llety (“cynllun”) ar gyfer y ceisydd.

(2)Mae cynllun wedi ei ffurfio gan—

(a)y cofnodion ysgrifenedig sy’n ofynnol gan yr adran hon, a

(b)unrhyw wybodaeth neu gyngor ysgrifenedig ar gyfer ceisydd y mae’r awdurdod tai lleol yn ystyried ei bod neu ei fod yn briodol.

(3)Caniateir i gynllun fod yn un ddogfen neu’n gasgliad o ddogfennau, y caniateir i unrhyw un neu ragor ohonynt gael ei diwygio neu eu diwygio yn unol â’r adran hon.

(4)Rhaid i’r awdurdod tai lleol roi sylw i’w asesiad o dan adran 62 mewn perthynas â’r ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd wrth baratoi ac adolygu’r cynllun.

(5)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gofnodi yn ysgrifenedig—

(a)asesiad yr awdurdod o’r materion a ddisgrifir ym mharagraffau (b), (c) ac (ca) o adran 62(5),

(b)unrhyw safbwyntiau gan y ceisydd mewn perthynas â’r materion hynny, ac

(c)unrhyw gamau y mae’r awdurdod i’w cymryd i gyfathrebu â’r ceisydd wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon mewn ffordd sy’n hygyrch i’r ceisydd.

(6)Rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod,

(b)cofnodi’r canlyniad yn ysgrifenedig, ac

(c)wrth baratoi ac adolygu cynllun, roi sylw i a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r canlyniad.

(7)Mae’r cyfeiriadau at gamau sydd i’w cymryd yn yr is-adrannau canlynol yn gyfeiriadau at gamau a gymerir ar gyfer neu mewn cysylltiad â’r diben o sicrhau bod y ceisydd, ynghyd ag unrhyw aelod arall o aelwyd y ceisydd, â llety addas ac yn gallu cadw llety addas.

(8)Rhaid i’r awdurdod tai lleol geisio cytuno â’r ceisydd ar y canlynol—

(a)unrhyw gamau y mae’r ceisydd i’w cymryd, a

(b)y camau y mae’r awdurdod i’w cymryd wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod).

(9)Os yw’r awdurdod tai lleol a’r ceisydd yn dod i gytundeb, rhaid i’r awdurdod gofnodi’r cytundeb hwnnw yn ysgrifenedig.

(10)Os na all yr awdurdod tai lleol a’r ceisydd ddod i gytundeb, rhaid i’r awdurdod gofnodi yn ysgrifenedig—

(a)pam na allent gytuno,

(b)unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn ystyried y byddai’n rhesymol i’r ceisydd eu cymryd, ac

(c)y camau y mae’r awdurdod i’w cymryd wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod).

(11)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gofnodi yn ysgrifenedig unrhyw gamau eraill y mae’n ymwybodol ohonynt y mae awdurdod cyhoeddus arall wedi cytuno i’w cymryd mewn perthynas â’r ceisydd.

(12)Rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)rhoi i’r ceisydd gopi o unrhyw ddogfen sy’n gynllun neu sy’n ffurfio rhan o gynllun;

(b)hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am y canlynol—

(i)yr hawl i ofyn am adolygiad o’r cynllun, a

(ii)y cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85).

(13)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gadw o dan adolygiad briodoldeb unrhyw gytundeb y deuir iddo o dan is-adran (8) neu unrhyw gamau a gofnodir o dan is-adran (10)(b) neu (c) yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod arno, neu y gall fod arno, ddyletswydd i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.

(14)Os yw’r awdurdod yn ystyried, o ran unrhyw gytundeb y deuir iddo o dan is-adran (8) neu unrhyw gam a gofnodir o dan is-adran (10)(b) neu (c), nad yw’n briodol bellach—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd, yn ysgrifenedig, ei fod yn ystyried nad yw’r cytundeb neu’r cam yn briodol bellach, a

(b)mae is-adrannau (8) i (12) yn gymwys eto.

(15)O ran hysbysiad o dan yr adran hon neu gopi o unrhyw ddogfen sy’n gynllun neu sy’n ffurfio rhan o gynllun, os nad yw’r hysbysiad neu’r copi hwnnw yn dod i law’r ceisydd, mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi i’r ceisydd os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

63BDyletswydd i adolygu asesiadau a chynlluniau o dan amgylchiadau penodol

(1)Os yw awdurdod tai lleol o dan ddyletswydd i gynnal cynllun atal, cefnogaeth a llety ar gyfer ceisydd, rhaid i’r awdurdod adolygu ei asesiad o dan adran 62 a’r cynllun os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cyfnod o 8 wythnos wedi mynd heibio heb adolygiad ers cwblhau’r cynllun cyntaf neu’r adolygiad diwethaf o’r cynllun;

(b)bod yr awdurdod tai lleol â rheswm i gredu bod amgylchiadau’r ceisydd, neu amgylchiadau unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd, wedi newid mewn ffordd a all effeithio ar y canlynol—

(i)anghenion llety,

(ii)cefnogaeth y mae ei hangen i gynorthwyo i gadw llety, neu

(iii)hawlogaeth i gymorth o dan y Bennod hon;

(c)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tai lleol fod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 neu 76A(2) wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben gan fod y ceisydd yn ddigartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)