RHAN 1DIGARTREFEDD
Asesu anghenion a chynlluniau ar gyfer sicrhau llety a chefnogaeth
4Cynlluniau atal, cefnogaeth a llety
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“63ACynlluniau atal, cefnogaeth a llety
(1)
Os yw awdurdod tai lleol yn ystyried bod dyletswydd arno i geisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon, rhaid i’r awdurdod baratoi a chynnal cynllun atal, cefnogaeth a llety (“cynllun”) ar gyfer y ceisydd.
(2)
Mae cynllun wedi ei ffurfio gan—
(a)
y cofnodion ysgrifenedig sy’n ofynnol gan yr adran hon, a
(b)
unrhyw wybodaeth neu gyngor ysgrifenedig ar gyfer ceisydd y mae’r awdurdod tai lleol yn ystyried ei bod neu ei fod yn briodol.
(3)
Caniateir i gynllun fod yn un ddogfen neu’n gasgliad o ddogfennau, y caniateir i unrhyw un neu ragor ohonynt gael ei diwygio neu eu diwygio yn unol â’r adran hon.
(4)
Rhaid i’r awdurdod tai lleol roi sylw i’w asesiad o dan adran 62 mewn perthynas â’r ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd wrth baratoi ac adolygu’r cynllun.
(5)
Rhaid i’r awdurdod tai lleol gofnodi yn ysgrifenedig—
(a)
asesiad yr awdurdod o’r materion a ddisgrifir ym mharagraffau (b), (c) ac (ca) o adran 62(5),
(b)
unrhyw safbwyntiau gan y ceisydd mewn perthynas â’r materion hynny, ac
(c)
unrhyw gamau y mae’r awdurdod i’w cymryd i gyfathrebu â’r ceisydd wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon mewn ffordd sy’n hygyrch i’r ceisydd.
(6)
Rhaid i’r awdurdod tai lleol—
(a)
ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod,
(b)
cofnodi’r canlyniad yn ysgrifenedig, ac
(c)
wrth baratoi ac adolygu cynllun, roi sylw i a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r canlyniad.
(7)
Mae’r cyfeiriadau at gamau sydd i’w cymryd yn yr is-adrannau canlynol yn gyfeiriadau at gamau a gymerir ar gyfer neu mewn cysylltiad â’r diben o sicrhau bod y ceisydd, ynghyd ag unrhyw aelod arall o aelwyd y ceisydd, â llety addas ac yn gallu cadw llety addas.
(8)
Rhaid i’r awdurdod tai lleol geisio cytuno â’r ceisydd ar y canlynol—
(a)
unrhyw gamau y mae’r ceisydd i’w cymryd, a
(b)
y camau y mae’r awdurdod i’w cymryd wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod).
(9)
Os yw’r awdurdod tai lleol a’r ceisydd yn dod i gytundeb, rhaid i’r awdurdod gofnodi’r cytundeb hwnnw yn ysgrifenedig.
(10)
Os na all yr awdurdod tai lleol a’r ceisydd ddod i gytundeb, rhaid i’r awdurdod gofnodi yn ysgrifenedig—
(a)
pam na allent gytuno,
(b)
unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn ystyried y byddai’n rhesymol i’r ceisydd eu cymryd, ac
(c)
y camau y mae’r awdurdod i’w cymryd wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod).
(11)
Rhaid i’r awdurdod tai lleol gofnodi yn ysgrifenedig unrhyw gamau eraill y mae’n ymwybodol ohonynt y mae awdurdod cyhoeddus arall wedi cytuno i’w cymryd mewn perthynas â’r ceisydd.
(12)
Rhaid i’r awdurdod tai lleol—
(a)
rhoi i’r ceisydd gopi o unrhyw ddogfen sy’n gynllun neu sy’n ffurfio rhan o gynllun;
(b)
hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am y canlynol—
(i)
yr hawl i ofyn am adolygiad o’r cynllun, a
(ii)
y cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85).
(13)
Rhaid i’r awdurdod tai lleol gadw o dan adolygiad briodoldeb unrhyw gytundeb y deuir iddo o dan is-adran (8) neu unrhyw gamau a gofnodir o dan is-adran (10)(b) neu (c) yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod arno, neu y gall fod arno, ddyletswydd i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.
(14)
Os yw’r awdurdod yn ystyried, o ran unrhyw gytundeb y deuir iddo o dan is-adran (8) neu unrhyw gam a gofnodir o dan is-adran (10)(b) neu (c), nad yw’n briodol bellach—
(a)
rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd, yn ysgrifenedig, ei fod yn ystyried nad yw’r cytundeb neu’r cam yn briodol bellach, a
(b)
mae is-adrannau (8) i (12) yn gymwys eto.
(15)
O ran hysbysiad o dan yr adran hon neu gopi o unrhyw ddogfen sy’n gynllun neu sy’n ffurfio rhan o gynllun, os nad yw’r hysbysiad neu’r copi hwnnw yn dod i law’r ceisydd, mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi i’r ceisydd os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.
63BDyletswydd i adolygu asesiadau a chynlluniau o dan amgylchiadau penodol
(1)
Os yw awdurdod tai lleol o dan ddyletswydd i gynnal cynllun atal, cefnogaeth a llety ar gyfer ceisydd, rhaid i’r awdurdod adolygu ei asesiad o dan adran 62 a’r cynllun os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2) yn gymwys.
(2)
Yr amgylchiadau yw—
(a)
bod cyfnod o 8 wythnos wedi mynd heibio heb adolygiad ers cwblhau’r cynllun cyntaf neu’r adolygiad diwethaf o’r cynllun;
(b)
bod yr awdurdod tai lleol â rheswm i gredu bod amgylchiadau’r ceisydd, neu amgylchiadau unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd, wedi newid mewn ffordd a all effeithio ar y canlynol—
(i)
anghenion llety,
(ii)
cefnogaeth y mae ei hangen i gynorthwyo i gadw llety, neu
(iii)
hawlogaeth i gymorth o dan y Bennod hon;
(c)
ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tai lleol fod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 neu 76A(2) wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben gan fod y ceisydd yn ddigartref.”