(1)Rhaid i Weinidogion Cymru cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y newidiadau a wneir gan y Ddeddf hon i Ddeddf 2014, Deddf 1996 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).
(2)Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdodau cyhoeddus neu leol, y sefydliadau gwirfoddol, y personau sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd yng Nghymru, neu unrhyw bersonau eraill, y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad o’u hadolygiad o weithrediad ac effaith adran 94A o Ddeddf 2014 a gosod copi ohono gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 20 i rym yn llawn.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad o’u hadolygiad o weithrediad ac effaith y newidiadau eraill a wneir gan y Ddeddf hon a gosod copi ohono gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu gweithrediad ac effaith newid a wneir gan y Ddeddf hon ar adeg pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ddarpariaeth sy’n gwneud y newid mewn grym i raddau sylweddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)