(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol ynghylch gwneud trefniadau y mae awdurdod tai lleol, o dan y trefniadau hynny, yn gwarantu y telir rhent gan feddiannydd llety tai yn unol â chytundeb o unrhyw fath.
(2)Cyn rhoi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdodau tai lleol ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddisodli canllawiau o dan yr adran hon drwy roi canllawiau pellach.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau o dan yr adran hon.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 38 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)