RHAN 3AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

38Canllawiau i awdurdodau tai lleol ar warantau rhent

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol ynghylch gwneud trefniadau y mae awdurdod tai lleol, o dan y trefniadau hynny, yn gwarantu y telir rhent gan feddiannydd llety tai yn unol â chytundeb o unrhyw fath.

(2)

Cyn rhoi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdodau tai lleol ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddisodli canllawiau o dan yr adran hon drwy roi canllawiau pellach.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau o dan yr adran hon.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.