RHAN 1DIGARTREFEDD

Gweld llety

33Gweld llety

Ar ôl adran 96B o Ddeddf 2014 (cyfarwyddydau i’w gwneud yn ofynnol cydymffurfio â cheisiadau o dan adran 96A) (a fewnosodir gan adran 32) mewnosoder—

“96CGweld llety

Os yw awdurdod tai lleol yn sicrhau cynnig o lety ar gyfer ceisydd gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 66 neu 75 i ben, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i ddarparu i’r ceisydd gyfle i weld y llety (pa un ai’n bersonol neu fel arall) cyn i’r ceisydd benderfynu derbyn y cynnig neu ei wrthod.”