Rhagolygol
Ar ôl adran 96 o Ddeddf 2014 (cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant) mewnosoder—
(1)Pan fo dyletswydd ar awdurdod tai lleol i geisydd o dan adran 75, caiff yr awdurdod wneud cais i landlord cymdeithasol sy’n darparu llety yn ardal yr awdurdod i gynnig i’r ceisydd lety addas yn yr ardal honno.
(2)At ddibenion yr adran hon ac adran 96B, ystyr “landlord cymdeithasol” yw—
(a)landlord cymdeithasol cofrestredig, neu
(b)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig.
(3)Wrth benderfynu a ddylid gwneud cais, rhaid i’r awdurdod tai lleol roi sylw i argaeledd llety addas a ddelir ganddo yn ei ardal.
(4)Pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud cais o dan is-adran (1), rhaid i landlord cymdeithasol, o fewn cyfnod rhesymol, gydymffurfio â’r cais oni bai bod gan y landlord resymau da dros beidio â gwneud hynny.
(5)Rhaid i landlord cymdeithasol sy’n darparu llety yn ardal awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth mewn perthynas â’r llety hwnnw a wneir iddo gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan yr adran hon.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch yr hyn sydd—
(a)yn rheswm da at ddibenion is-adran (4);
(b)yn gyfnod rhesymol at ddibenion is-adran (4);
(c)yn gais rhesymol at ddibenion is-adran (5).
(7)Cyn rhoi unrhyw ganllawiau or fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)y cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli awdurdodau lleol yng Nghymru,
(b)y cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli landlordiaid cymdeithasol, ac
(c)y cyfryw bersonau eraill,
ag y maent yn meddwl eu bod yn briodol.
(8)Rhaid i landlord cymdeithasol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan yr adran hon.
(1)Mae is-adran (3) yn gymwys—
(a)os nad yw landlord cymdeithasol, o fewn cyfnod rhesymol, yn cydymffurfio â chais a wnaed gan awdurdod tai lleol o dan adran 96A(1), a
(b)os yw’r awdurdod tai lleol, gan roi sylw i unrhyw esboniad a roddwyd i’r awdurdod gan y landlord cymdeithasol, yn ystyried nad oes gan y landlord cymdeithasol reswm da dros beidio â chydymffurfio â’r cais.
(2)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys os nad yw’r landlord cymdeithasol yn ymateb, o fewn cyfnod rhesymol, i gais a wnaed gan awdurdod tai lleol o dan adran 96A(1).
(3)Caiff yr awdurdod tai lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru.
(4)Ar ôl cael atgyfeiriad o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r landlord cymdeithasol am y canlynol—
(a)yr atgyfeiriad, a
(b)y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru am yr atgyfeiriad.
(5)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried yr atgyfeiriad ac unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y landlord cymdeithasol, yn ystyried nad oes gan y landlord cymdeithasol reswm da dros beidio â chydymffurfio â’r cais a wnaed gan yr awdurdod tai lleol neu nad ymatebodd i gais o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r landlord cymdeithasol i gydymffurfio â’r cais o fewn y cyfryw gyfnod ag a bennir yn y cyfarwyddyd.
(6)Rhaid i landlord cymdeithasol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan is-adran (5).
(7)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (5)—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;
(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan neu ar ran Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod tai lleol a wnaeth yr atgyfeiriad y gwneir y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)