RHAN 1DIGARTREFEDD
Cydweithredu
31Cydweithredu
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(5)
Y personau yw—
(a)
awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(b)
awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(c)
Bwrdd Iechyd Lleol, ond dim ond mewn perthynas ag unigolion y mae’n darparu neu’n trefnu gwasanaethau gofal iechyd iddynt nad ydynt yn wasanaethau gofal sylfaenol;
(d)
landlord cymdeithasol cofrestredig, pa un ai mewn perthynas â thai a ddarperir yng Nghymru neu yn Lloegr;
(e)
corfforaeth tref newydd ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;
(f)
darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, pa un ai mewn perthynas â thai a ddarperir yng Nghymru neu yn Lloegr;
(g)
ymddiriedolaeth gweithredu tai ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;
(h)
llywodraethwr carchar yng Nghymru neu yn Lloegr;
(i)
cyfarwyddwr carchar ar gontract yng Nghymru neu yn Lloegr;
(j)
llywodraethwr sefydliad troseddwyr ifanc yng Nghymru neu yn Lloegr;
(k)
llywodraethwr canolfan hyfforddi ddiogel yng Nghymru neu yn Lloegr;
(l)
cyfarwyddwr canolfan hyfforddi ddiogel ar gontract yng Nghymru neu yn Lloegr;
(m)
pennaeth coleg diogel yng Nghymru neu yn Lloegr;
(n)
rheolwr cartref diogel i blant yng Nghymru neu yn Lloegr;
(o)
tîm troseddwyr ifanc sydd wedi ei sefydlu o dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;
(p)
darparwr gwasanaethau prawf yng Nghymru neu yn Lloegr;
(q)
swyddog sydd wedi ei ddynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau at ddibenion yr adran hon ac sydd wedi ei gyflogi gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn swyddfa yng Nghymru neu yn Lloegr a elwir yn swyddfa Canolfan Byd Gwaith;
(r)
yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, ond dim ond mewn perthynas ag aelodau o luoedd arfog rheolaidd y Goron.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (5)—
(a)
er mwyn hepgor cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;
(b)
er mwyn ychwanegu cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;
(c)
er mwyn newid cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson.
(7)
O ran rheoliadau o dan is-adran (6)—
(a)
cânt hepgor cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl;
(b)
ni chânt ychwanegu cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio;
(c)
ni chânt newid cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl mewn ffordd sy’n addasu swyddogaethau’r awdurdod o dan yr adran hon oni bai—
(i)
yn achos awdurdod sy’n Weinidog y Goron, yr ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch y newid, neu
(ii)
yn achos unrhyw awdurdod arall, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.
(8)
Caiff rheoliadau o dan baragraff (b) neu (c) o is-adran (6)—
(a)
disgrifio person drwy gyfeirio at arfer disgresiwn gan berson arall;
(b)
pennu achosion neu amgylchiadau pryd y mae cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson yn gymwys.”
(3)
Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau: y weithdrefn), ar ôl “94B(2)” (a fewnosodir gan adran 20(4)) mewnosoder “neu 95(6)”.