Rhagolygol
Ar ôl adran 97 o Ddeddf 2014 (datganiadau anwir etc.) mewnosoder—
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru adroddiad ar ddefnydd a chyflwr llety interim a sicrheir o dan adran 68 ac adran 75 gan awdurdodau tai lleol yng Nghymru.
(2)At y diben hwnnw, rhaid i awdurdodau tai lleol yng Nghymru gyflenwi i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth ag sy’n ofynnol ganddynt.
(3)Rhaid i’r adroddiad cyntaf o dan yr adran hon gael ei osod, a’i gyhoeddi, ar 31 Rhagfyr 2030 neu cyn hynny.
(4)Rhaid gosod adroddiad, a’i gyhoeddi, ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)