RHAN 1DIGARTREFEDD

Cyflwr llety

30Adroddiadau ar ddefnydd a chyflwr llety interim

Ar ôl adran 97 o Ddeddf 2014 (datganiadau anwir etc.) mewnosoder—

“97AAdroddiadau ar ddefnydd a chyflwr llety interim

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru adroddiad ar ddefnydd a chyflwr llety interim a sicrheir o dan adran 68 ac adran 75 gan awdurdodau tai lleol yng Nghymru.

(2)

At y diben hwnnw, rhaid i awdurdodau tai lleol yng Nghymru gyflenwi i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth ag sy’n ofynnol ganddynt.

(3)

Rhaid i’r adroddiad cyntaf o dan yr adran hon gael ei osod, a’i gyhoeddi, ar 31 Rhagfyr 2030 neu cyn hynny.

(4)

Rhaid gosod adroddiad, a’i gyhoeddi, ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf.”