RHAN 1DIGARTREFEDD

Ceisio safbwyntiau personau digartref

28Dyletswydd i geisio safbwyntiau personau digartref wrth arfer swyddogaethau digartrefedd

(1)

Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 52(8) (strategaethau digartrefedd), ar ôl “cyrff gwirfoddol” mewnosoder “, personau yn ardal yr awdurdod sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd”.

(3)

Yn adran 60(4) (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth), ar ôl y geiriau “cyrff gwirfoddol” mewnosoder “, personau yn ardal yr awdurdod sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd”.

(4)

Ar ôl adran 98(4) (canllawiau) mewnosoder—

“(5)

Cyn rhoi, diwygio neu dynnu’n ôl ganllawiau o dan‍ y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw awdurdodau cyhoeddus neu leol, y cyfryw sefydliadau gwirfoddol, y cyfryw bersonau sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd yng Nghymru, neu’r cyfryw bersonau eraill, y maent yn ystyried eu bod yn briodol.”