RHAN 1DIGARTREFEDD

Darpariaeth ar gyfer pobl hyglwyf

27Y diffiniad o “camdriniaeth”

Yn lle adran 58 o Ddeddf 2014 (ystyr camdriniaeth a chamdriniaeth ddomestig) rhodder—

“58Y diffiniad o gamdriniaeth

Yn y Bennod hon, ystyr “camdriniaeth” yw—

(a)

camdriniaeth ddomestig o fewn yr ystyr a roddir i “domestic abuse” gan adran 1 o Ddeddf Camdriniaeth Ddomestig 2021 (p. 17), neu

(b)

unrhyw fath arall o gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at berygl o niwed, gan gynnwys (er enghraifft)—

(i)

camfanteisio o fewn yr ystyr a roddir i “exploitation” yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (p. 30);

(ii)

aflonyddu neu stelcio o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “harassment a “stalking, yn y drefn honno, yn Neddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997 (p. 40).”