RHAN 1DIGARTREFEDD
Darpariaeth ar gyfer pobl hyglwyf
24Protocol ar gyfer ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â phersonau y mae angen cefnogaeth arnynt yn benodol
(1)
Mae adran 95 o Ddeddf 2014 (cydweithredu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(1C)
Rhaid i awdurdod tai lleol yng Nghymru wneud trefniadau i hybu cydweithredu rhyngddo ef ei hun a’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol a grybwyllir yn is-adran (1D) sy’n arfer swyddogaethau yn ardal yr awdurdod, gyda’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol yn ei ardal—
(a)
atal digartrefedd,
(b)
bod llety addas ar gael i bersonau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,
(c)
bod cefnogaeth foddhaol ar gael ar gyfer personau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,
(d)
cydgysylltu achosion yn effeithiol, a hynny gan bersonau a grybwyllir yn is-adran (1D), ynghylch personau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref ac y mae’n bosibl bod angen cefnogaeth arall arnynt yn benodol hefyd, ac
(e)
cyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol o dan y Rhan hon.
(1D)
Y personau yw—
(a)
y personau a grybwyllir yn is-adran (5);
(b)
unrhyw awdurdod cyhoeddus arall sydd â swyddogaethau sy’n gallu cyfrannu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (1C);
(c)
unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae ei weithgareddau’n gallu cyfrannu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion hynny.
(1E)
Rhaid i’r trefniadau o dan is-adran (1C) gynnwys protocol ar gyfer ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â phersonau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref ac y mae’n bosibl bod angen cefnogaeth arall neu wasanaethau eraill arnynt yn benodol hefyd, gan gynnwys yn benodol gefnogaeth neu wasanaethau sy’n ofynnol mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)
gadael y carchar neu lety cadw ieuenctid;
(b)
gadael lluoedd arfog rheolaidd y Goron;
(c)
camddefnyddio cyffuriau a sylweddau eraill;
(d)
iechyd meddwl.”