Rhagolygol
(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 108 (asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18) mewnosoder—
(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys i—
(a)person ifanc categori 1;
(b)person ifanc categori 2;
(c)person ifanc categori 5;
(d)person ifanc categori 6;
ac, yn achos person ifanc categori 1 neu berson ifanc categori 2, mae’r ddyletswydd yn parhau i fod yn gymwys i’r person ifanc (i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol) ar ôl i’r person ifanc ddod yn berson ifanc categori 3.
(2)Os yw’n ofynnol i lesiant y person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y person ifanc gymryd camau rhesymol i sicrhau bod llety addas ar gael i’r person ifanc ei feddiannu—
(a)yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person ifanc yn cyrraedd 18 oed, a
(b)mewn perthynas â pherson ifanc categori 3, yn ystod cyfnod dilynol pan fydd dyletswydd i’r person ifanc o dan adran 110.
(3)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (4) yn gymwys i—
(a)person ifanc categori 3;
(b)person ifanc categori 4;
(c)person ifanc categori 5 sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 114(3);
(d)person ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 5 sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 114(5);
(e)person ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 115(4);
(f)person ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 115(6);
ac mae’r ddyletswydd yn parhau i fod yn gymwys i’r person ifanc (i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol) ar ôl i’r person ifanc beidio â dod o fewn unrhyw un o baragraffau (a) i (f).
(4)Os yw’n ofynnol i lesiant y person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y person ifanc gymryd camau rhesymol i sicrhau bod llety addas ar gael i’r person ifanc ei feddiannu yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r canlynol—
(a)mewn perthynas â pherson ifanc categori 3, y diwrnod y mae dyletswydd yr awdurdod i’r person ifanc o dan adran 110 yn dod i ben;
(b)mewn perthynas â pherson ifanc categori 4, y diwrnod y mae dyletswydd yr awdurdod i’r person ifanc o dan adran 112 yn dod i ben;
(c)mewn perthynas â pherson ifanc categori 5, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 114(3) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben;
(d)mewn perthynas â pherson ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 5, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 114(5) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben;
(e)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 115(4) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben;
(f)mewn perthynas â pherson ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 6, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 115(6) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben.
(5)Ni chaniateir ystyried bod llety ar gael i berson ifanc ei feddiannu at ddiben yr adran hon ond os yw ar gael i’r person ifanc hwnnw ei feddiannu ynghyd ag unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person ifanc.
(6)Mae unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae person ifanc yn ei dilyn i’w ddiystyru at ddiben is-adrannau (3) a (4) os yw’r awdurdod lleol cyfrifol wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.”
(3)Yn adran 109 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2), hepgorer is-adran (3).
(4)Ar ôl is-adran 109 mewnosoder—
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyr “llety addas” at ddibenion adrannau 108A a 109.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—
(a)unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r llety, gan gynnwys (ymysg pethau eraill)—
(i)addasrwydd darparwyr llety;
(ii)yr amodau meddiannu;
(iii)natur neu safon llety;
(iv)lleoliad llety;
(b)nodweddion neu amgylchiadau personol person ifanc y mae adran 108A neu 109 yn gymwys iddo neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol i’r person ifanc breswylio gydag ef.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)