RHAN 1DIGARTREFEDD

Dyletswydd i ofyn a gweithredu

20Dyletswydd person penodedi‍g i ofyn a gweithredu

(1)

Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl adran 94 (gwarchod eiddo: darpariaethau atodol) mewnosoder—

“94ADyletswydd‍ person penodedig i ofyn a gweithredu

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw‍ person penodedig (gweler adran 94B) yn ystyried bod‍ unigolyn yng Nghymru y mae’r‍ person penodedig yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ef yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu y gall fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, yn ddarostyngedig i is-adran (7).

(2)

Rhaid i’r‍ person penodedig ofyn i’r unigolyn—

(a)

cytuno i’r‍ person penodedig hysbysu awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr am y canlynol—

(i)

y farn a grybwyllir yn is-adran (1), a

(ii)

sut y gall yr awdurdod tai lleol gysylltu â’r‍ unigolyn;

(b)

enwi awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr yr hoffai’r‍ unigolyn i’r hysbysiad gael ei wneud iddo.

(3)

Os yw’r‍ unigolyn yn cytuno i’r person penodedig wneud yr hysbysiad, rhaid i’r‍ person penodedig hysbysu—

(a)

yr awdurdod tai lleol a enwyd gan‍ yr unigolyn, neu

(b)

os nad yw’r‍ unigolyn wedi enwi awdurdod, yr awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr y mae’r‍ person penodedig yn ystyried ei fod yn briodol.

(4)

Os yw’r hysbysiad sy’n ofynnol gan is-adran (3) yn cael ei wneud i awdurdod tai lleol yng Nghymru, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai’n gais gan‍ yr unigolyn i’r awdurdod tai lleol o dan adran 62(1)(a).

(5)

Rhaid i’r‍ person penodedig—

(a)

darparu gwybodaeth i’r‍ unigolyn am y cymorth sydd ar gael‍ ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref;

(b)

ystyried a oes unrhyw gamau eraill y gallai, yn rhesymol, eu cymryd wrth arfer ei swyddogaethau i gynorthwyo’r‍ unigolyn i sicrhau neu i gadw llety addas ac, os yw’r‍ person penodedig yn ystyried bod unrhyw gamau o’r fath, rhaid iddo gymryd y camau hynny;

(c)

ystyried a yw’r farn a grybwyllir yn is-adran (1) yn effeithio ar arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r‍ unigolyn ynghylch unrhyw fater.

(6)

Nid yw‍ paragraffau (b) ac (c) o is-adran (5) yn effeithio ar unrhyw un neu ragor o hawliau’r‍ person penodedig, pa un ai yn rhinwedd contract, deddfiad neu reolaeth cyfraith, i sicrhau meddiant gwag o unrhyw lety.

(7)

Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw’r‍ person penodedig yn fodlon—

(a)

bod cais i awdurdod tai lleol yng Nghymru o dan adran 62(1)(a) o’r Ddeddf hon, neu i awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 183 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r‍ unigolyn, a

(b)

naill ai—

(i)

bod y cais yn cael ei ystyried, neu

(ii)

bod dyletswydd yn gymwys o dan y Ddeddf hon, neu Ddeddf 1996, i sicrhau llety neu i ddarparu cymorth arall mewn cysylltiad â’r cais.

94B‍Personau penodedig

(1)

At ddibenion adran 94A,‍ mae pob un o’r canlynol yn “person penodedig”—

(a)

awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(b)

Bwrdd Iechyd Lleol, ond dim ond mewn perthynas ag unigolion y mae’n darparu neu’n trefnu gwasanaethau gofal iechyd iddynt nad ydynt yn wasanaethau gofal sylfaenol;

(c)

Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

(d)

landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)

corfforaeth tref newydd ar gyfer ardal yng Nghymru;

(f)

darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig sy’n darparu tai yng Nghymru;

(g)

ymddiriedolaeth gweithredu tai ar gyfer ardal yng Nghymru;

(h)

llywodraethwr carchar yng Nghymru;

(i)

cyfarwyddwr carchar ar gontract yng Nghymru;

(j)

llywodraethwr sefydliad troseddwyr ifanc yng Nghymru;

(k)

llywodraethwr canolfan hyfforddi ddiogel yng Nghymru;

(l)

cyfarwyddwr canolfan hyfforddi ddiogel ar gontract yng Nghymru;

(m)

pennaeth coleg diogel yng Nghymru;

(n)

tîm troseddwyr ifanc sydd wedi ei sefydlu o dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) ar gyfer ardal yng Nghymru;

(o)

rheolwr cartref diogel i blant yng Nghymru;

(p)

darparwr gwasanaethau prawf yng Nghymru;

(q)

swyddog sydd wedi ei ddynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau at ddibenion adran 94A ac sydd wedi ei gyflogi gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn swyddfa yng Nghymru a elwir yn swyddfa Canolfan Byd Gwaith;

(r)

yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, ond dim ond mewn perthynas ag aelodau o luoedd arfog rheolaidd y Goron.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1)—

(a)

er mwyn hepgor cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;

(b)

er mwyn ychwanegu cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;

(c)

er mwyn newid cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson.‍

(3)

O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)

cânt hepgor cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl;

(b)

ni chânt ychwanegu cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio;

(c)

ni chânt newid cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl mewn ffordd sy’n addasu swyddogaethau’r awdurdod o dan adran 94A oni bai—

(i)

yn achos awdurdod sy’n Weinidog y Goron, yr ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch y newid, neu

(ii)

yn achos unrhyw awdurdod arall, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(4)

Caiff rheoliadau o dan baragraff (b) neu (c) o is-adran (2)—

(a)

disgrifio person drwy gyfeirio at arfer disgresiwn gan berson arall;

(b)

pennu achosion neu amgylchiadau pryd y mae cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson yn gymwys.”

(3)

Yn adran 98 (canllawiau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

“(2A)

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 94A, rhaid i‍ berson penodedig roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.”

(4)

Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau: y weithdrefn), yn lle “neu 86(1)” rhodder “, 86(1), 94B(2)”.