RHAN 1DIGARTREFEDD
Cymorth i atal digartrefedd
2Cymorth i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer adran 65 (ystyr cynorthwyo i sicrhau).
(3)
Yn adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref)—
(a)
yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw awdurdod tai lleol yn fodlon bod ceisydd o dan fygythiad o ddigartrefedd a’i fod yn gymwys i gael cymorth.
(1A)
Rhaid i’r awdurdod gynorthwyo i sicrhau nad yw llety addas yn peidio â bod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu drwy gymryd camau rhesymol sy’n debygol o gyflawni’r diben hwnnw.
(1B)
Nid yw is-adran (1A) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (dyrannu tai) neu ddarparu llety fel arall.”;
(b)
yn is-adran (2), yn lle “(1)” rhodder “(1A)”.