RHAN 1DIGARTREFEDD

Ymddygiad annerbyniol sy’n dod â dyletswyddau i ben

19Amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben

(1)

Mae adran 79 o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adran (1), yn lle “neu (5)” rhodder “, (5), (6) neu (7)”.

(3)

Yn lle is-adran (5), rhodder—

“(5)

Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon—

(a)

bod y ceisydd wedi ymddwyn yn dreisgar neu’n fygythiol tuag at unigolyn a oedd yn cyflawni gweithgaredd sy’n gysylltiedig â’r canlynol—

(i)

arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, neu

(ii)

darparu llety neu wasanaethau eraill a sicrhawyd i unrhyw raddau drwy arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon,

(b)

bod yr ymddygiad wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan fo cais ceisydd yn cael ei ystyried a bo unrhyw ddyletswydd o dan adran 66, 68, 75 neu 76A(2) yn gymwys, ac

(c)

nad oes dim amgylchiadau arbennig a fyddai’n ei gwneud yn briodol i’r ddyletswydd berthnasol barhau i fod yn gymwys.

(6)

Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon—

(a)

bod eiddo a oedd yn llety a sicrhawyd i unrhyw raddau drwy arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, neu eiddo a ddarparwyd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â llety o’r fath, wedi ei ddinistrio neu wedi ei ddifrodi’n ddifrifol yn ystod y cyfnod pan fo cais ceisydd yn cael ei ystyried a bo unrhyw ddyletswydd o dan adran 66, 68 neu 75 yn gymwys,

(b)

bod y ceisydd, neu berson sy’n preswylio gyda’r ceisydd, wedi dinistrio’r eiddo neu wedi ei ddifrodi’n ddifrifol, neu wedi ysgogi neu annog ei ddinistrio neu ei ddifrodi gan berson arall,

(c)

bod y ceisydd neu berson sy’n preswylio gyda’r ceisydd wedi bwriadu dinistrio’r eiddo neu ei ddifrodi’n ddifrifol, neu wedi bod yn ddi-hid o ran a fyddai’r eiddo yn cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi’n ddifrifol,

(d)

nad oes dim esgus rhesymol dros weithredoedd y ceisydd neu’r person sy’n preswylio gyda’r ceisydd, ac

(e)

nad oes dim amgylchiadau arbennig a fyddai’n ei gwneud yn briodol i’r ddyletswydd berthnasol barhau i fod yn gymwys.

(7)

Yr amgylchiadau yw—

(a)

nad yw’r ceisydd wedi ymateb i geisiadau mynych gan yr awdurdod tai lleol i gysylltu â’r ceisydd mewn cysylltiad â’r cais,

(b)

nad yw’r awdurdod yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau arbennig a fyddai’n ei gwneud yn briodol i’r ddyletswydd berthnasol barhau i fod yn gymwys,

(c)

bod yr awdurdod wedi rhoi hysbysiad rhybuddio i’r ceisydd yn esbonio—

(i)

bod yr awdurdod, oherwydd y ffeithiau a ddisgrifir ym mharagraff (a), yn bwriadu rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan adran 84, a

(ii)

canlyniadau rhoi hysbysiad o dan adran 84 i’r ceisydd, a

(d)

bod cyfnod rhesymol wedi mynd heibio ers i’r hysbysiad rhybuddio gael ei roi, a hynny heb unrhyw gyswllt gan y ceisydd mewn cysylltiad â’r cais.

(8)

Rhaid i hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (7) gael ei roi yn ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law’r ceisydd, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi i’r ceisydd os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.”