Rhagolygol
Ar ôl adran 76B o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 76A(2) yn dod i ben) (a fewnosodir gan adran 17(2)), mewnosoder—
(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—
(a)ceisydd—
(i)yr oedd dyletswydd iddo o dan adran 75 a ddaeth i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 76(7A), a
(ii)nad yw o fewn is-adran (2);
(b)yr awdurdod tai lleol a arferodd y swyddogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (a)(i) mewn perthynas â’r ceisydd.
(2)Mae ceisydd o fewn yr is-adran hon—
(a)os oes dyletswydd ar yr awdurdod tai lleol i’r ceisydd o dan adran 76A(2) ar ddechrau’r cyfnod perthnasol, neu
(b)os yw’n ofynnol i’r awdurdod tai lleol, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol, gynnal asesiad o dan adran 62 mewn cysylltiad â’r ceisydd neu os yw wedi cynnal asesiad o’r fath cyn dechrau’r cyfnod perthnasol.
(3)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r ceisydd (pa un a yw’r ceisydd o fewn ei ardal ai peidio) o fewn y cyfnod perthnasol gyda’r nod o ganfod, o ran y ceisydd, a yw neu a all fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu a yw mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd.
(4)Os yw’r awdurdod tai lleol yn ystyried, o ran y ceisydd, ei fod neu y gall fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu ei fod mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd, rhaid i’r awdurdod tai lleol roi i’r ceisydd y gyfryw wybodaeth a’r cyfryw gyngor y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod neu ei fod yn briodol.
(5)At ddiben yr adran hon, y “cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 2 fis ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 fod y ddyletswydd o dan adran 75 wedi dod i ben.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)