RHAN 1DIGARTREFEDD

Dyletswyddau pellach o ran atal digartrefedd

18Dyletswydd i gysylltu â cheiswyr penodol ar ôl i’r ddyletswydd yn adran 75 ddod i ben

Ar ôl adran 76B o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 76A(2) yn dod i ben) (a fewnosodir gan adran 17(2)), mewnosoder—

“76CDyletswydd i gadw mewn cysylltiad â cheiswyr penodol

(1)

Mae’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—

(a)

ceisydd—

(i)

yr oedd dyletswydd iddo o dan adran 75 a ddaeth i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 76(7A), a

(ii)

nad yw o fewn is-adran (2);

(b)

yr awdurdod tai lleol a arferodd y swyddogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (a)(i) mewn perthynas â’r ceisydd.

(2)

Mae ceisydd o fewn yr is-adran hon—

(a)

os oes dyletswydd ar yr awdurdod tai lleol i’r ceisydd o dan adran 76A(2) ar ddechrau’r cyfnod perthnasol, neu

(b)

os yw’n ofynnol i’r awdurdod tai lleol, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol, gynnal asesiad o dan adran 62 mewn cysylltiad â’r ceisydd neu os yw wedi cynnal asesiad o’r fath cyn dechrau’r cyfnod perthnasol.

(3)

Rhaid i’r awdurdod tai lleol gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r ceisydd (pa un a yw’r ceisydd o fewn ei ardal ai peidio) o fewn y cyfnod perthnasol gyda’r nod o ganfod, o ran y ceisydd, a yw neu a all fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu a yw mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd.

(4)

Os yw’r awdurdod tai lleol yn ystyried, o ran y ceisydd, ei fod neu y gall fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu ei fod mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd, rhaid i’r awdurdod tai lleol roi i’r ceisydd y gyfryw wybodaeth a’r cyfryw gyngor y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod neu ei fod yn briodol.

(5)

At ddiben yr adran hon, y “cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 2 fis ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 fod y ddyletswydd o dan adran 75 wedi dod i ben.”