Rhagolygol
(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben) mewnosoder—
(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—
(a)ceisydd—
(i)nad yw’n ddigartref nac o dan fygythiad o ddigartrefedd,
(ii)y mae llety addas ar gael iddo ei feddiannu a oedd, i unrhyw raddau, wedi ei gadw neu wedi ei sicrhau drwy awdurdod tai lleol yn arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon (pa un ai drwy ddarparu llety neu fathau eraill o gymorth), a
(iii)y mae’r awdurdod tai lleol yn ystyried ei fod mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd oni bai bod cymorth pellach yn cael ei ddarparu;
(b)yr awdurdod tai lleol sy’n arfer y swyddogaethau a ddisgrifir ym mharagraff (a)(ii) mewn perthynas â’r ceisydd.
(2)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety’r ceisydd yn peidio â bod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu drwy gymryd camau rhesymol sy’n debygol o gyflawni’r diben hwnnw.
(3)Mae is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â cheisydd y mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) wedi dod i ben ar ei gyfer yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (4) neu (6) o adran 76B.
(4)Caiff yr awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety’r ceisydd yn peidio â bod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu drwy gymryd camau rhesymol sy’n debygol o gyflawni’r diben hwnnw.
(1)Daw’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 76A(2) i ben yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3), (4), (6) neu (9) os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.
(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref.
(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd ai peidio) nad yw’r ceisydd bellach mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd oni bai bod cymorth yn cael ei ddarparu.
(4)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod y ceisydd yn meddiannu llety sydd wedi ei ddarparu neu wedi ei drefnu wrth arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, a
(b)bod y cyfnod yn is-adran (5) sy’n dechrau ar y diwrnod diweddarach wedi dod i ben.
(5)Y cyfnodau yw—
(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y daeth y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu;
(b)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 fod dyletswydd o dan adran 76A(2) yn ddyledus i’r ceisydd.
(6)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod y ceisydd yn meddiannu llety a sicrhawyd wrth arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, ond nas darparwyd ac nas trefnwyd wrth arfer y swyddogaethau hynny, a
(b)bod y cyfnod yn is-adran (7) sy’n dechrau ar y dyddiad diweddarach wedi dod i ben.
(7)Y cyfnodau yw—
(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 84 fod y ddyletswydd o dan adran 66 wedi dod i ben;
(b)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 fod dyletswydd o dan adran 76A(2) yn ddyledus i’r ceisydd.
(8)At ddiben is-adrannau (5) a (7) mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.
(9)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd wedi gofyn nad yw cymorth o’r math sy’n ofynnol gan adran 76A(2) yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod tai lleol.
(10)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 76A(2) yn dod i ben.”
(3)Yn adran 79(1) (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben), yn lle “a 75” rhodder “, 75 ac 76A(2)”.
(4)Yn adran 84(1) (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben), yn lle “neu 75” rhodder “, 75 neu 76A(2)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)