Rhagolygol

RHAN 1LL+CDIGARTREFEDD

Atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleolLL+C

16Hysbysiad i geiswyr mewn achosion atgyfeirioLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio)—

(a)hepgorer is-adran (2);

(b)hepgorer is-adran (7).

(3)Yn adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “bod dyletswyddau wedi dod i ben” mewnosoder “ac am atgyfeiriadau cysylltiadau lleol”;

(b)yn is-adran (1), hepgorer “(gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni)”;

(c)ar ôl is-adran (1A) (a fewnosodir gan adran 5(2)) mewnosoder—

(1B)Pan fo awdurdod tai lleol (“awdurdod A”) yn hysbysu awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) (“awdurdod B”) am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio achos ceisydd o dan adran 80 wedi eu bodloni, rhaid iddo, ar yr un pryd, hysbysu’r ceisydd bod awdurdod B wedi cael ei hysbysu am farn awdurdod A.

(1C)Rhaid i awdurdod A hefyd hysbysu’r ceisydd am benderfyniad o dan adran 80(5) ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd wedi eu bodloni.

(1D)Rhaid i hysbysiad a roddir gan awdurdod A i geisydd o dan is-adran (1B) neu (1C)—

(a)nodi’r rhesymau dros y farn neu’r penderfyniad,

(b)esbonio effaith awdurdod A yn hysbysu awdurdod B ar hawlogaethau’r ceisydd o dan y Bennod hon, neu effaith y penderfyniad o dan adran 80(5) ar yr hawlogaethau hynny,

(c)rhoi gwybod i’r ceisydd am unrhyw hawl i ofyn am adolygiad, a

(d)pennu’r cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)