RHAN 1DIGARTREFEDD

Atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleol

12Ystyr cysylltiad lleol

(1)

Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 81 (cysylltiad lleol), yn lle is-adran (4) rhodder—

“(4)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu amgylchiadau—

(a)

pan fo person i’w drin fel person sy’n preswylio fel arfer mewn ardal, neu pan nad yw i’w drin felly;

(b)

pan fo preswyliad mewn ardal i’w drin fel preswyliad o ddewis y person ei hun, neu pan nad yw i’w drin felly;

(c)

pan fo person i’w drin fel person a gyflogir mewn ardal, neu pan nad yw i’w drin felly;

(d)

pan fo person i’w drin fel person sydd â chysylltiad teuluol ag ardal, neu pan nad yw i’w drin felly;

(e)

sydd i’w trin fel amgylchiadau arbennig sy’n cysylltu person ag ardal, neu nad ydynt i’w trin felly.”

(3)

Yn adran 142(3)(b) (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)

ym mharagraff (i), hepgorer “neu 81(4)”;

(b)

ym mharagraff (ii), ar ôl “80(2A)(b)” (a fewnosodir gan adran 11(7)) mewnosoder “, 81(4)”.