RHAN 1DIGARTREFEDD
Atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleol
11Atgyfeirio achosion at awdurdod tai lleol arall
(1)
Mae adran 80 o Ddeddf 2014 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer is-adran (1).
(3)
“(2)
Os yw awdurdod tai lleol yn ystyried—
(a)
ei fod, neu y gall fod, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) mewn cysylltiad â cheisydd sy’n garcharor, a
(b)
bod yr amodau wedi eu bodloni ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) o dan is-adran (3) neu mewn unrhyw amgylchiadau rhagnodedig,
caiff hysbysu’r awdurdod hwnnw am ei farn.
(2A)
Os yw awdurdod tai lleol yn ystyried—
(a)
ei fod, neu y gall fod, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety) mewn cysylltiad â cheisydd neu y byddai’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd oni bai am adran 75(4), a
(b)
bod yr amodau wedi eu bodloni ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) o dan is-adran (3) neu mewn unrhyw amgylchiadau rhagnodedig,
caiff hysbysu’r awdurdod hwnnw am ei farn.
(2B)
Ond ni chaiff awdurdod tai lleol hysbysu o dan is-adran (2A) ar ôl i’r ceisydd gael ei hysbysu o dan adran 63 fod dyletswydd ar yr awdurdod o dan adran 75, oni bai bod y ceisydd yn garcharor.”
(4)
Yn is-adran (3)(c), yn lle “na fydd y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn resymol iddo breswylio gyda’r ceisydd yn wynebu’r perygl o camdriniaeth ddomestig yn yr ardal arall honno” rhodder “nad yw’r ceisydd nac unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd wedi ei esemptio rhag atgyfeirio (gweler adran 81A)”.
(5)
Hepgorer is-adran (4).
(6)
Yn is-adran (5), yn y testun Saesneg, yn lle “satisfied” rhodder “met”.
(7)
Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl “78(1)” mewnosoder “, 80(2)(b), 80(2A)(b)”.