RHAN 1DIGARTREFEDD
Diddymu hawlogaeth drwy gyfeirio at anghenion blaenoriaethol a digartrefedd bwriadol
10Diddymu gwahaniaethau o ran hawlogaeth sy’n ymwneud â digartrefedd bwriadol
(1)
Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Hepgorer—
(a)
adran 77 (ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol);
(b)
adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb).