Rhagolygol
(1)Mae adran 55 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”) (ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (4), yn lle “os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.” rhodder “—
(a)os yw’r person wedi cael hysbysiad ysgrifenedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r person ildio meddiannaeth o lety’r person,
(b)os yw cais wedi ei wneud i’r Uchel Lys neu i’r llys sirol am orchymyn i berson arall adennill meddiant o lety’r person, neu
(c)os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 6 mis (pa un a yw paragraff (a) neu (b) yn gymwys ai peidio).”
(3)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Nid yw is-adran (4)(a) yn gymwys ond i hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ildio meddiannaeth o lety a roddir gan berson yr ymddengys ei fod â hawl i roi hysbysiad o’r fath mewn cysylltiad â’r llety, ni waeth—
(a)a yw’r hysbysiad yn ddilys fel arall, a
(b)beth fo rhinweddau unrhyw hawliad posibl am feddiant o’r llety gan y person a roddodd yr hysbysiad.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)