RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Cynllun Rhwydwaith Bysiau CymruLL+C

9Diwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru: dyletswyddau awdurdod lleolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan geisir barn awdurdod lleol o dan adran 8(3).

(2)Wrth roi ei farn, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i anghenion personau yn ei ardal y mae’n ystyried eu bod yn defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, neu’n debygol o ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol, y mae’r diwygiad arfaethedig yn effeithio arnynt, gan gynnwys yn benodol eu hanghenion mewn perthynas â hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol; a rhaid iddo ystyried a ddylai, at y diben hwn, gynnal ymgynghoriad â phersonau yn ei ardal ynghylch y diwygiad arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(3)

I2A. 9 mewn grym ar 30.6.2026 gan O.S.C. 2026/109, ergl. 2(e)