RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru

9Diwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru: dyletswyddau awdurdod lleol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan geisir barn awdurdod lleol o dan adran 8(3).

(2)

Wrth roi ei farn, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i anghenion personau yn ei ardal y mae’n ystyried eu bod yn defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, neu’n debygol o ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol, y mae’r diwygiad arfaethedig yn effeithio arnynt, gan gynnwys yn benodol eu hanghenion mewn perthynas â hygyrchedd gwasanaethau bysiau lleol; a rhaid iddo ystyried a ddylai, at y diben hwn, gynnal ymgynghoriad â phersonau yn ei ardal ynghylch y diwygiad arfaethedig.