RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
8Darpariaeth bellach ynghylch diwygiadau i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei wneud (“diwygiad arfaethedig”), oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried—
(a)
mai bychan yn unig fyddai effaith y diwygiad arfaethedig ar y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau lleol, neu
(b)
na fyddai’n rhesymol ymarferol cynnal ymgynghoriad ar y diwygiad arfaethedig fel y’i disgrifir yn is-adran (4).
(2)
Cyn gwneud y diwygiad arfaethedig, rhaid i Weinidogion Cymru lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru sy’n ymgorffori’r diwygiad arfaethedig (y “Cynllun drafft diwygiedig”).
(3)
Wrth lunio’r Cynllun drafft diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal awdurdod lleol, geisio barn yr awdurdod hwnnw.
(4)
Ar ôl llunio’r Cynllun drafft diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud y diwygiad arfaethedig i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, ymgynghori â phob un o’r personau a ganlyn ar y diwygiad arfaethedig—
(a)
pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal awdurdod lleol, yr awdurdod hwnnw;
(b)
pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), y pwyllgor hwnnw;
(c)
pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru, yr awdurdod hwnnw;
(d)
unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(e)
unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau cyflogeion gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(f)
unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt, neu sy’n debygol o ddefnyddio’r gwasanaethau hynny, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)
unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)
At ddibenion yr ymgynghoriad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o’r Cynllun drafft diwygiedig i bob un o’r personau hynny.
(6)
Ar ôl ymgynghori â’r personau hynny ar y diwygiad arfaethedig, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru naill ai yn nhermau’r Cynllun drafft diwygiedig neu, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gan roi sylw i unrhyw farn a fynegir yn ystod yr ymgynghoriad, mewn termau eraill.
(7)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at “gwasanaethau bysiau lleol yr effeithir arnynt”, mewn perthynas ag ymgynghori ar ddiwygiad arfaethedig, yn gyfeiriadau at wasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’r diwygiad arfaethedig yn effeithio arnynt.